Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

 

Briff ar oblygiadau Bil Cymru ar gyfer gwaith y Pwyllgor

 

Cynnwys

Rhan 1: Cyflwyniad

 

2

Rhan 2: Profion cymhwysedd Bil Cymru

 

3

Rhan 3: Prawf “yn ymwneud â”

 

7

Rhan 4: Diwygio’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl

 

12

Rhan 5: Y Gymraeg

14

 

Rhan 6: Y gyfraith breifat

 

16

Rhan 7: Y gyfraith droseddol

 

18

Rhan 8: Cydsyniad un o Weinidogion y Goron (yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig)

 

19

Atodiad – Tabl materion a gedwir yn ôl sy’n fwyaf perthnasol i’r Pwyllgor

 

21


 

RHAN 1

RHAGYMADRODD

1. Mae Bil Cymru’n cynnig nifer o newidiadau arwyddocaol a chymhleth yng nghyfraith gyfansoddiadol Cymru. Mae’n darparu ar gyfer cydnabod Cynulliad i Gymru a Llywodraeth i Gymru fel rhannau parhaol o drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig; yn rhoi cydnabyddiaeth statudol i’r confensiwn presennol na fydd Senedd y Deyrnas Unedig yn deddfu "fel rheol" ynghylch materion datganoledig heb gydsyniad y Cynulliad.

2. Mae Bil Cymru hefyd yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad i newid materion pwysig fel ei enw, nifer Aelodau’r Cynulliad, dull ethol Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys yr etholfraint a’r system etholiadol, anghymhwyso Aelodau Cynulliad, a pha mor hir fydd tymhorau’r Cynulliad (er y byddai angen cytundeb dwy ran o dair o holl Aelodau’r Cynulliad ar gyfer rhai o’r rhain).

3. Mae Bil Cymru’n cynnig gweddnewid cymhwysedd deddfwriaethol presennol y Cynulliad o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau. Mae’r model rhoi pwerau presennol yn nodi’r hyn y gall y Cynulliad ei wneud, ond mae’r model cadw pwerau arfaethedig yn nodi’r hyn na all y Cynulliad ei wneud.

4. Mae’r model cadw pwerau arfaethedig yn nodi’r hyn na all y Cynulliad ei wneud drwy gyfeirio at 10 prawf (gweler Rhan 2). Mae effaith gronnol y profion hyn yn arwyddocaol iawn, gan godi pryderon bod yna gamu’n ôl o ran cymhwysedd y Cynulliad mewn meysydd arwyddocaol. Ceir enghreifftiau ym mhob Rhan isod.

5. Hefyd, mae Bil Cymru’n rhoi swyddogaethau gweithredol newydd i Weinidogion Cymru.

 


 

RHAN 2

PROFION CYMHWYSEDD BIL CYMRU1.

1. Mae Bil Cymru’n cynnig 10 prawf cymhwysedd (o’i gyferbynnu â naw ar hyn o bryd). Mae’r profion hyn wedi’u nodi isod. Mae rhai yr un fath â phrofion cyfredol (e.e. os yw’n cydweddu â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a chyfraith yr UE). Mae rhan yn newydd, ond yn deillio’n anochel o’r newid i’r model cadw pwerau. 

2. Mae’r 10 prawf arfaethedig ar gyfer cymhwysedd wedi’u crynhoi yn y tabl isod. Wedyn mae’r profion mwyaf arwyddocaol yn cael eu hystyried ymhellach yn Rhannau 3 i 8.

3. Bydd darpariaeth mewn Deddf Cynulliad y tu allan i gymhwysedd:

Prawf 1

os yw’r ymestyn y tu hwnt i awdurdodaeth Cymru a Lloegr.

 

Prawf 2

os yw’n gymwys heblaw o ran Cymru, oni bai—

 

-       bod y ddarpariaeth yn ategol i ddarpariaeth arall mewn Deddf Cynulliad neu i ddarpariaeth ddatganoledig yn un o ddeddfau Senedd y Deyrnas Unedig, ac

 

-       nad oes iddi fwy o effaith y tu hwnt i Gymru nag sy’n angenrheidiol i roi ei effaith i ddiben y ddarpariaeth arall honno.

 

Prawf 3

os yw’n ymwneud â materion a gedwir yn ôl a restrir yn Atodlen 7A.

 

Prawf 4

os yw’n diwygio’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, oni bai—

 

-       bod y diwygiad yn ategol i ddarpariaeth nad yw’n ymwneud â mater a gedwir yn ôl, ac

 

-       nad oes iddo fwy o effaith ar faterion a gedwir yn ôl nag sy’n angenrheidiol i roi ei effaith i ddiben y ddarpariaeth honno.

 

Prawf 5

os yw’n diwygio’r gyfraith breifat, oni bai bod i’r diwygiad ddiben nad yw’n ymwneud â mater a gedwir yn ôl.

 

Diffinnir “y gyfraith breifat” yn fras fel pe bai’n golygu’r gyfraith a ganlyn: contract; asiantaeth (gweithredu ar ran rhywun arall); beilïaeth (math o drosglwyddo eiddo dros dro); camwedd (drwgweithredu sifil, megis esgeulustod meddygol); cyfoethogi anghyfiawn ac adfer (dychwelyd eiddo i’w berchennog); eiddo; ymddiriedolaethau; olynu (hynny yw, etifeddu).

 

Prawf 6

os yw’n diwygio neu’n creu trosedd mewn “categori rhestredig”.

 

Dyma’r categorïau rhestredig—

 

-       brad a throseddau cysylltiedig,

-       troseddau lladdiad (gan gynnwys troseddau sy’n ymwneud â hunanladdiad) a throseddau eraill yn erbyn y person (gan gynnwys troseddau sy’n cynnwys trais neu fygwth trais) a all gael eu profi ar dditiad yn unig (hynny yw, y troseddau mwyaf difrifol yn erbyn y person),

-       troseddau rhywiol (gan gynnwys troseddau sy’n ymwneud â delweddau anweddus neu bornograffig),

-       troseddau tyngu anudon.

 

Hefyd, mae darpariaeth mewn Deddf Cynulliad yn methu diwygio’r gyfraith ar y canlynol

 

-       cyfrifoldeb a galluedd troseddol (e.e. galluedd meddyliol i gyflawni trosedd, neu’r oedran pryd y gall plentyn gael ei erlyn am weithred),

-       ystyr bwriad, dihidrwydd, anonestrwydd ac elfennau meddyliol eraill mewn troseddau,

-       atebolrwydd troseddol cychwynnol ac eilaidd (sy’n ymdrin â’r hyn sy’n gyfystyr ag ymgais i gyflawni trosedd, neu gynllwyn i’w gyflawni),

-       dedfrydau a gorchmynion eraill o ran ymddygiad troseddol, eu heffaith a sut maen nhw’n gweithredu.

 

Ac mae diwygio’r gyfraith ynghylch amddiffyniadau ar gyfer trosedd yn cyfrif fel diwygio’r trosedd.

 

Prawf 7

os yw’n diwygio deddfiad gwarchodedig (a restrir yn Atodlen 7B, gan gynnwys rhai o ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac ambell ddeddfwriaeth arall, megis Deddf Hawliau Dynol 1998).

Prawf 8

(Rhan 1)

os yw’n rhoi neu’n gosod swyddogaethau ar awdurdod a gedwir yn ôl heb gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

os yw’n diwygio cyfansoddiad awdurdod a gedwir yn ôl heb gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

os yw’n rhoi, gosod, diwygio neu ddileu swyddogaethau sydd i’w harfer yn benodol o ran awdurdod a gedwir yn ôl heb gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Ystyr “awdurdod a gedwir yn ôl” yw un o Weinidogion y Goron neu adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac unrhyw awdurdod cyhoeddus arall heblaw awdurdod cyhoeddus yng Nghymru. Mae awdurdod cyhoeddus yng Nghymru, at ei gilydd, yn awdurdod cyhoeddus y mae ei swyddogaethau’n gymwys yng Nghymru yn unig ac ynghylch materion sydd heb eu cadw yn ôl yn unig. Ond fe all cyrff sydd â swyddogaethau ehangach gael eu diffinio fel awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru drwy eu rhestru yn yr Atodlen 9A newydd i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Nid yw’r prawf hwn yn gymwys o ran ambell gorff penodedig sydd fel arall yn gallu bod yn awdurdodau a gedwir yn ôl, megis y Comisiwn Etholiadol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr.

 

Prawf 8

(Rhan 2)

os yw’n dileu neu’n diwygio unrhyw swyddogaeth i awdurdod cyhoeddus heb gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Ond nid yw’r prawf hwn yn gymwys i’r canlynol—

 

-       awdurdod cyhoeddus yng Nghymru,

-       un o Weinidogion y Goron,

-       ambell gorff penodedig megis y Comisiwn Etholiadol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr.

 

Prawf 8

(Rhan 3)

os yw’n dileu neu’n diwygio rhai swyddogaethau penodedig i un o Weinidogion y Goron heb gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Dyma’r swyddogaethau penodedig—

 

-       swyddogaethau Gweinidogion y Goron sy’n cael eu harfer yn gydredol neu ar y cyd â Gweinidogion Cymru,

-       unrhyw swyddogaethau Cymraeg sydd gan un o Weinidogion y Goron,

-       swyddogaethau penodol sydd gan un o Weinidogion y Goron o ran dŵr, carthffosiaeth, y môr a rheilffyrdd.

 

Prawf 8

Rhan 4)

os yw’n dileu neu’n diwygio unrhyw swyddogaeth arall sydd gan un o Weinidogion y Goron (hynny yw, swyddogaeth sydd heb ei chynnwys gan Ran 3 o Brawf 8) heb fod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn gyntaf â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Prawf 9

os nad yw’n cydweddu â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (fel y’i hymgorfforwyd yng nghyfraith y Deyrnas Unedig gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998)

 

Prawf 10

os nad yw’n cydweddu â chyfraith yr UE.

 

 


 

RHAN 3

PRAWF “YN YMWNEUD ”

Y setliad presennol

1. Mae’r setliad presennol wedi’i seilio ar y model rhoi pwerau. Mae hynny’n golygu bod rhaid i ddeddfwriaeth y Cynulliad ymwneud â phwnc datganoledig a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Er enghraifft, mae’r pynciau datganoledig a ganlyn wedi’u rhestru yn Atodlen 7 o dan y pennawd ‘Diwylliant’:

-       Celfyddydau a chrefftau

-       Amgueddfeydd ac orielau

-       Llyfrgelloedd

-       Archifau a chofnodion hanesyddol

-       Gweithgareddau a phrosiectau diwylliannol

2. Ac mae’r pynciau datganoledig a ganlyn wedi’u rhestru yn Atodlen 7 o dan y pennawd ‘Henebion ac adeiladau hanesyddol’:

-       Gweddillion archaeolegol

-       Henebion

-       Adeiladau a lleoedd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol

-       Llongddrylliadau hanesyddol

3. Rhestrir “y Gymraeg” hefyd yn Atodlen 7 o dan bennawd o’r un enw.

4. Yn Neddf Llywodraeth Cymru, mae i’r geiriau “yn ymwneud â” ystyr benodol. Mae’r cwestiwn a yw Deddf Cynulliad yn ymwneud â phwnc datganoledig ai peidio yn dibynnu’n bennaf ar ddiben y Ddeddf honno. Er hynny, gall effaith y Ddeddf, a ffactorau eraill, gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd. Felly, yn ein setliad ni nid yw “yn ymwneud â” yn cyfateb yn syml i “yn delio â”, neu “yn cyfeirio at” yn unig.

5. Mae Deddfau Cynulliad megis Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i gyd yn ymwneud ag un neu ragor o’r pynciau datganoledig a restrir yn Atodlen 7.

6. Mae Atodlen 7 hefyd yn rhestru eithriadau, ac mae’n rhaid i ddeddfwriaeth y Cynulliad beidio ag ymwneud ag eithriad (hyd yn oed os yw hi hefyd yn ymwneud â phwnc datganoledig). Er enghraifft, mae’r eithriadau a ganlyn wedi’u rhestru yn Atodlen 7:

-       Hawl fenthyca gyhoeddus

-       Darlledu

-       Dosbarthiad ffilmiau a recordiadau fideo

-       Indemniadau'r Llywodraeth ar gyfer gwrthrychau ar fenthyg

-       Eiddo deallusol

-       Masnachu ar y Sul

-       Y defnydd o’r iaith Gymraeg mewn llysoedd

7. Does dim Deddfau Cynulliad yn ymwneud ag eithriad.

8. Wedyn mae yna bynciau nad ydynt wedi’u rhestru yn Atodlen 7, nac fel pynciau datganoledig nac fel eithriadau. Er enghraifft, nid yw ‘amddiffyn y deyrnas’, ‘mewnfudo’ a ‘chyflogaeth’ wedi’u rhestru yn Atodlen 7. Mae Atodlen 7 yn dawel ar y pynciau hyn, ac maen nhw wedi dod i gael eu hadnabod fel pynciau tawel.

9. Roedd yna gwestiwn ar un adeg a allai’r Cynulliad basio deddfwriaeth a oedd yn ymwneud â phwnc datganoledig a phwnc tawel. Yn 2014, eglurodd y Goruchaf Lys y caiff y Cynulliad basio deddfwriaeth sy’n ymwneud â phwnc datganoledig a phwnc tawel. Yr enghraifft glasurol yw Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth (pwnc datganoledig) a chyflogaeth (pwnc tawel).

10. Gan hynny, ar yr amod bod deddfwriaeth y Cynulliad yn ymwneud yn deg ac yn realistig â phwnc datganoledig does dim ots ei bod yn ymwneud hefyd â phwnc tawel. Ond fe fydd ots os yw’n ymwneud ag eithriad, gan fod rhaid i ddeddfwriaeth y Cynulliad beidio ag ymwneud ag eithriad.

Bil Cymru

11. Mae Bil Cymru’n troi’r setliad cyfredol yn fodel cadw pwerau. Mae hynny’n golygu bod rhaid i ddeddfwriaeth y Cynulliad beidio ag ymwneud â mater a gedwir yn ôl (hynny yw, mater sydd wedi'i gadw i Senedd y Deyrnas Unedig). Gan hynny, mae’r rhestr o faterion a gedwir yn ôl yn bwysig – hiraf yn y byd y bo’r rhestr materion a gedwir yn ôl, lleiaf yn y byd o bethau y gall y Cynulliad eu gwneud. Mae Atodlen 1 i Fil Cymru yn cynnwys rhestr o faterion a gedwir yn ôl sy’n rhedeg i 200 o baragraffau, llawer ohonynt yn cynnwys mwy nag un mater, ar draws 35 o dudalennau.

12. Mae ystyr “yn ymwneud â” ym Mil Cymru yr un fath ag yn y setliad cyfredol: mae’n dibynnu ar ddiben y Ddeddf Cynulliad, ond gall effaith y Bil, a ffactorau eraill, gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd wrth benderfynu a yw darpariaeth mewn Deddf Cynulliad yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl ai peidio.

13. Os bydd deddfwriaeth y Cynulliad yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl yna bydd y tu allan i gymhwysedd, hyd yn oed os yw hi hefyd yn ymwneud â phwnc datganoledig megis henebion.

14. Mae pob un o’r eithriadau uchod wedi’u troi’n faterion a gedwir yn ôl. Gan hynny, maen nhw y tu allan i gyrraedd y Cynulliad ar hyn o bryd a byddant yn parhau y tu allan i gyrraedd y Cynulliad o dan Fil Cymru.

15. Er hynny, mae yn feysydd lle mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad wedi’i gwtogi. Dyma ddwy enghraifft o leihau cymhwysedd y Cynulliad a pha mor anodd yw hwylio drwy’r holl faterion a gedwir yn ôl.

Enghraifft 1: cyflogaeth fel mater a gedwir yn ôl

Mae Bil Cymru’n troi cyflogaeth o bwnc tawel yn fater a gedwir yn ôl. Felly, mae materion fel hawliau gweithwyr a’r isafswm cyflog wedi’u cadw yn ôl o dan Fil Cymru. Gan hynny, o dan Fil Cymru ni fyddai’r Cynulliad yn gallu pasio deddfwriaeth sy’n ymwneud â hawliau gweithwyr a’r isafswm cyflog hyd yn oed pe bai’n ymwneud, dyweder, â lles cymdeithasol.

O gymryd enghraifft ddamcaniaethol: mae’r Cynulliad yn dymuno deddfu ynghylch cyflogau ac amserau gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. O dan y setliad cyfredol, fe fyddai hyn o fewn cymhwysedd pe bai’n ymwneud mewn modd teg a realistig â lles cymdeithasol (hynny yw os gwella gofal pobl agored i niwed a phobl hŷn fyddai diben ac effaith y ddeddfwriaeth, er enghraifft, drwy sicrhau nad oedd yna gymhelliant i weithwyr gofal gwtogi ymweliadau gofal yn sgil y modd y câi eu cyflogau neu eu horiau gwaith eu cyfrifo). Fyddai dim ots pe bai’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chyflogaeth hefyd.

 

Er hynny, o dan Fil Cymru, pe bai gan y ddeddfwriaeth fwy na chysylltiad llac neu ganlyniadol â chyflogaeth, yna byddai’n ymwneud â mater a gedwir yn ôl ac fe fyddai y tu allan i gymhwysedd. Ar ben hynny, fyddai dim ots pe bai’r ddeddfwriaeth yn ymwneud hefyd â maes sydd heb ei gadw yn ôl megis lles cymdeithasol; ar yr amod ei bod yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl yna byddai y tu allan i gymhwysedd. Yn yr enghraifft uchod, mae’n debyg wedyn y byddai deddfwriaeth y Cynulliad yn methu’r prawf “yn ymwneud â” am ei bod yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl, sef cyflogaeth. Mewn geiriau eraill, byddai’r setliad newydd yn creu gostyngiad mewn cymhwysedd.

 

Ategir y casgliad hwn gan y ffaith bod “pwnc Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014” wedi’i gynnwys fel eithriad yn y mater a gedwir yn ôl ar gyfer cyflogaeth. Mae hynny’n awgrymu y byddai cyflogau etc, er eu bod o fewn cymhwysedd yng nghyd-destun amaethyddiaeth, yn cael eu cadw yn ôl mewn sectorau eraill.

 

Enghraifft 2: pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

 

Mae’r Bil Plismona a Throseddau yn diwygio pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae gan yr heddlu bwerau eisoes o dan Ddeddf 1983 i fynd i fangreoedd er mwyn mynd â phobl sy’n dioddef anhwylder meddwl i ffwrdd a mynd â nhw i le diogel. Mae’r Bil Plismona a Throseddau yn ymestyn y pwerau hyn mewn sawl ffordd; mae hefyd yn darparu dulliau diogelu penodol i rwystro’r pwerau estynedig hyn, gan gynnwys mwy o reolaeth dros y math o le a all gael ei ddefnyddio fel ‘lle diogel’.

 

Er enghraifft, mae’r Bil Plismona a Throseddau yn caniatáu i’r heddlu fynd i ystod eang o fangreoedd i fynd â phobl sy’n dioddef anhwylder meddwl i ffwrdd, ond ar yr un pryd mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu ymgynghori â gweithiwr iechyd proffesiynol cyn mynd â pherson (os yw’n ymarferol ymgynghori fel hyn). Ar ben hynny, ni allai swyddfa heddlu byth fod yn lle diogel i blentyn o dan y Bil Plismona a Throseddau.

 

Ar hyn o bryd, mae’r darpariaethau hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad am eu bod yn ymwneud yn deg ac yn realistig â’r pynciau canlynol yn Atodlen 7:

 

-       atal, trin a lleddfu anhwylder meddyliol

 

-       gofal personau hyglwyf

 

Does dim eithriadau perthnasol (er enghraifft, nid yw plismona’n eithriad). Gan hynny, mae’n eglur bod y rhannau hyn o’r Bil Plismona a Throseddau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac mae angen cydsyniad y Cynulliad cyn y gall Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu yn y maes hwn.

 

O dan Fil Cymru, mae plismona’n fater a gedwir yn ôl. Gan hynny, os yw’r rhannu hyn o’r Bil Plismona a Throseddau yn ymwneud â phlismona (hynny yw os oes ganddyn nhw fwy na chysylltiad llac neu ganlyniadol ag ef), yna fe fydden nhw y tu allan i gymhwysed y Cynulliad (hyd yn oed pe baen nhw’n ymwneud hefyd ag atal anhwylderau meddyliol neu â gofal personau hyglwyf). Mae’n ymddangos mai amddiffyn pobl sy’n dioddef anhwylderau meddyliol yw prif ddiben y rhannau hyn o’r Bil, ond mae’r elfen blismona’n arwyddocaol. Hefyd, mae teitl hir y Bil Plismona a Throseddau yn dweud, o ran y rhannau iechyd meddwl, ei fod yn Fil “to amend the powers of the police under the Mental Health Act 1983”.

 

O gofio diben ac effaith y rhannau hyn o’r Bil Plismona a Throseddau, mae’n debyg bod mwy na chysylltiad llac neu ganlyniadol â phlismona, ac felly mae’r rhannau hyn o’r Bil yn debyg o ymwneud â phlismona ac o fod y tu allan i gymhwysedd o dan Bil Cymru.

 

Pe bernid bod y rhannau hyn o’r Bil Plismona a Throseddau y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad o dan Fil Cymru, fyddai dim angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

 

 


 

RHAN 4

DIWYGIO’R GYFRAITH AR FATERION a GEDWIR YN ÔL

1. Nid yn unig y mae’n rhaid i ddeddfwriaeth y Cynulliad beidio ag ymwneud â mater a gedwir yn ôl, mae’n rhaid hefyd iddi beidio â diwygio’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl. Ceir gwahaniaeth mân iawn rhwng y ddau brawf.

2. Er enghraifft, fe allai deddfwriaeth y Cynulliad basio’r prawf “yn ymwneud â” am fod diben ac effaith deddfwriaeth y Cynulliad yn golygu nad yw’n ymwneud â mater a gedwir yn ôl mewn gwirionedd. Ond fe allai deddfwriaeth y Cynulliad fod yn diwygio’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl o hyd.

3. Gallwn ddangos hyn drwy edrych eto ar enghraifft y Bil Plismona a Throseddau sy’n diwygio pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Pe bai deddfwriaeth Cynulliad yn ceisio diwygio pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a bod llys yn dweud nad oedd deddfwriaeth y Cynulliad yn ymwneud â phlismona mewn gwirionedd, o gofio mai mynd i’r afael â phryderon am iechyd meddwl oedd prif ddiben deddfwriaeth y Cynulliad, wedyn fe fyddai’n pasio’r prawf “yn ymwneud â”.

4. Er hynny, bydd deddfwriaeth y Cynulliad yn dal yn diwygio’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl am ei bod yn diwygio’r gyfraith ar blismona (hynny yw, y rhan honno o’r gyfraith ar blismona a geir yn Neddf Iechyd Meddwl 1983). Ac er mwyn pasio’r prawf ynghylch diwygio’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, byddai’n rhaid i’r Cynulliad ddangos bod ei ddeddfwriaeth yn diwygio’r gyfraith ar blismona mewn ffordd ategol[1] yn unig ac na châi ei ddeddfwriaeth fwy o effaith ar blismona nag a oedd yn angenrheidiol i roi ei effaith i’r diben o fynd i’r afael â phryderon iechyd meddwl.

5. Mae’r “gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl” yn ymgorffori’r cyfan o’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl. O gofio nifer fawr y materion a gedwir yn ôl, mae’r prawf hwn yn cynnwys swm sylweddol o gyfraith, ac ni fydd deddfwriaeth y Cynulliad yn gallu diwygio’r swm sylweddol hwnnw oni bai ei fod yn gwneud hynny mewn modd ategol ac nad oes mwy o effaith nag y mae ei angen er mwyn rhoi ei effaith i ddiben deddfwriaeth y Cynulliad.

6. Sylwch: hyd yn oed os yw profion 3 a 4 wedi’u bodloni yn yr enghraifft plismona uchod, mae’n debyg iawn y bydd yr heddlu yn “awdurdod a gedwir yn ôl” ac felly bydd angen cydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn y caiff y Cynulliad osod swyddogaethau ar yr heddlu neu ddiwygio swyddogaethau’r heddlu (gweler Rhan 8 i gael rhagor o fanylion am gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig). Dyma enghraifft dda o sut y gall effaith gronnol y profion ym Mil Cymru greu cyfyngiad o bwys ar allu’r Cynulliad i ddeddfu.

7. I gael enghraifft wahanol o sut y gallai deddfwriaeth y Cynulliad basio’r prawf “yn ymwneud â” ond methu’r prawf “yn addasu’r gyfraith ar faterion a gedwir”, gweler paragraff 414 o’r Nodiadau Esboniadol ar Fil Cymru.


 

RHAN 5

Y GYMRAEG

1. Er bod Bil Cymru’n cynnwys rhestr o faterion a gedwir yn ôl na all y Cynulliad ddeddfu arnyn nhw, os daw Bil Cymru’n ddeddf gwlad ni fydd creu, dileu neu newid swyddogaethau Cymraeg person heblaw llys (gweler paragraffau 2 a 3 isod) yn faterion a gedwir yn ôl. Er hynny, mae darpariaethau eraill yn y Bil yn gofyn am gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig os yw’r Cynulliad yn dymuno deddfu i ddileu neu i ddiwygio swyddogaeth sydd gan un o Weinidogion y Deyrnas Unedig o ran y Gymraeg (gweler paragraff 4 isod).

2. Mae Atodlen 1 i Fil Cymru’n cynnig mewnosod Atodlen 7A newydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Atodlen 7A yn cynnwys y rhestr o faterion a gedwir yn ôl, sef y rhestr o bynciau na fydd y Cynulliad yn cael deddfu yn eu cylch. Er hynny, mae paragraff 200 o’r Atodlen 7A arfaethedig yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer swyddogaethau Cymraeg. Mae hwn yn dweud nad yw Atodlen 7A yn cadw yn ôl:

(a)  “conferring or imposing (or giving power to confer, impose) a Welsh language function on a person other than a court;

(b)  modifying or removing (or giving power to modify or remove) any Welsh language function of a person other than a court.”

3. Diffinnir swyddogaeth Gymraeg fel swyddogaeth o ran y Gymraeg.

4. Mae Atodlen 2 i Fil Cymru’n mewnosod Atodlen 7B newydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Atodlen 7B yn cynnwys cyfyngiadau ychwanegol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynullid, ar ben y materion a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A. Mae paragraff 11(1)(b) o Atodlen 7B yn ymwneud â’r Gymraeg. Mae’n dweud na all darpariaeth mewn Deddf Cynulliad ddileu neu ddiwygio (na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu i ddiwygio) unrhyw swyddogaeth sydd gan un o Weinidogion y Goron sy’n arferadwy o ran y Gymraeg oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydsynio i’r ddarpariaeth. Mae hyn yn lleihau cymhwysedd y Cynulliad oherwydd ar hyn o bryd mae’r Cynulliad yn cael gwneud deddfwriaeth sy’n diwygio neu’n dileu unrhyw swyddogaeth sydd gan un o Weinidogion y Goron a ddaeth i rym ar 5 Mai 2011 neu ar ôl hynny.  Mae hefyd yn cael mynd ati ar hyn o bryd i ddileu neu i ddiwygio swyddogaethau hŷn sydd gan un o Weinidogion y Goron os yw’r dileu neu’r diwygio yn ganlyniadol neu’n ategol yn unig. Mewn achosion eraill, mae angen cydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

5. Ni fydd Bil Cymru’n effeithio ar ddeddfwriaeth bresennol y Cynulliad ar y Gymraeg, yn enwedig Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Deddf Ieithoedd Swyddogol (Cymru) 2012. Yn benodol, bydd pwerau Comisiynydd y Gymraeg yn y Mesur i osod safonau yn parhau mewn grym.  (Gweler Atodlen 6, paragraffau 1 a 5 o Fil Cymru).


1.    

RHAN 6

Y GYFRAITH BREIFAT

1. Mae’r prawf hwn wedi’i nod yn y Tabl uchod (Prawf 5).

2. Mae defnyddio’r gyfraith breifat yn ffordd bwysig iawn o wneud deddfwriaeth yn effeithiol; gall y gyfraith breifat gael ei defnyddio i orfodi rhwymedigaethau a sicrhau hawliau.

3. Mae’r Cynulliad wedi defnyddio’r gyfraith breifat mewn llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth. Er enghraifft, defnyddiodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyfraith contract i ddiwygio’r sail gyfreithiol ar gyfer rhentu cartref. Defnyddiodd Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gyfraith contract i foderneiddio’r berthynas rhwng perchnogion cartrefi symudol a gweithredwyr safleoedd.

4. Defnyddiodd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 gyfraith asiantaeth i ymdrin â chwestiwn cydsyniad. Er enghraifft, o dan amgylchiadau penodol, gallai person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn roi cydsyniad pendant i weithgareddau trawsblannu ar ran y plentyn.

5. Nid yw Bil Cymru’n diffinio ystyr “asiantaeth”, ond ar y sail ei fod yn golygu gweithredu ar ran rhywun arall yna fe gafodd gyfraith asiantaeth ei diwygio gan Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013. O dan y setliad cyfredol, doedd dim angen ystyried cyfraith asiantaeth oherwydd: (a) roedd y ddeddfwriaeth yn ymwneud â phwnc datganoledig, a (b) does dim eithriad ar gyfer “y gyfraith breifat”.

6. Er hynny, o dan Fil Cymru, byddai’n rhaid i’r Cynulliad bwyso a mesur a fyddai ei ddeddfwriaeth yn diwygio’r gyfraith breifat; yn benodol, ni allai’r Cynulliad ddiwygio’r gyfraith breifat pe bai diben y ddeddfwriaeth yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl. Unwaith eto, mae hyn yn atgyfnerthu’r pwynt bod y rhestr o’r materion a gedwir yn ôl yn bwysig.

7. Er na fyddai Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl ac y byddai’n pasio’r prawf cyfraith breifat, mae profion eraill o dan Fil Cymru yn berthnasol. Yn benodol, am fod Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn rhoi swyddogaethau i’r Awdurdod Meinweoedd Dynol (a fyddai’n awdurdod a gedwir yn ôl o dan Fil Cymru) yna byddai angen cydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig (gweler Rhan 7 i gael rhagor o wybodaeth am gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig).

 


 

RHAN 7

Y GYFRAITH DROSEDDOL

1. Mae’r prawf hwn wedi’i nodi yn y Tabl uchod (prawf 6). Mae’r enghraifft isod yn dangos sut y byddai’r setliad newydd arfaethedig yn lleihau cymhwysedd y Cynulliad o ran y gyfraith droseddol.

Enghraifft: camfanteisio’n rhywiol ar blant

 

Yng nghyd-destun camfanteisio’n rhywiol ar blentyn, mae’r diffiniad o “camfanteisio’n rhywiol” yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003 yn cynnwys “recordio” delweddau anweddus o blentyn. Mae’r Bil Plismona a Throseddau yn diwygio’r diffiniad hwn i egluro bod “ffrydio” a “darlledu” delweddau anweddus o blentyn wedi’u cynnwys yn y diffiniad.

 

Mae hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad am ei fod yn ymwneud â’r pwnc a ganlyn yn Atodlen 7:

 

-       amddiffyn a llesiant plant.

 

Does dim eithriadau perthnasol (er enghraifft, nid yw troseddau rhywiol yn eithriad). Gan hynny, ar hyn o bryd mae’r rhan hon o’r Bil Plismona a Throseddau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac mae angen cydsyniad y Cynulliad cyn y caiff Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu yn y maes hwn.

 

O dan Fil Cymru, ni fydd deddfwriaeth y Cynulliad yn gallu diwygio na chreu trosedd. Mae diwygiad y Bil Plismona a Throseddau ar gyfer y diffiniad yn diwygio (neu o bosibl yn creu) trosedd rhywiol, ac felly o dan Fil Cymru fe fyddai y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad ac ni fyddai angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

 


 

RHAN 8

CYDSYNIAD UN O WEINIDOGION Y GORON (YN LLYWODRAETH Y DEYRNAS UNEDIG)

1. Dyma gyfres hir a chymhleth o brofion, ac mae wedi’i chrynhoi yn y Tabl uchod, fel Prawf 8, rhannau 1 i 4. Mae’r enghraifft isod yn darlunio un ffordd yn unig y byddai’r setliad newydd yn lleihau gallu’r Cynulliad i ddeddfu heb gydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Enghraifft: Angen cydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i osod dyletswyddau ynghylch e-sigaréts ar awdurdodau a gedwir yn ôl sydd â gweithleoedd yng Nghymru

 

Y bwriad yn wreiddiol oedd y byddai Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn gwahardd defnyddio e-sigaréts yn gyffredinol mewn gweithleoedd ledled Cymru. Fel rhan o’r gwaharddiad hwnnw, roedd yn gosod dyletswyddau penodol ar reolwyr gweithleoedd, er enghraifft, roedd yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr gymryd camau i atal personau rhag defnyddio e-sigaréts a’i gwneud yn ofynnol iddyn nhw godi arwyddion yn y gweithle. Ar hyn o bryd mewn hyn o fewn cymhwysedd am ei fod yn ymwneud ag iechyd ac am nad oes eithriadau perthnasol. Hefyd, does dim angen cydsyniad llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd i osod dyletswyddau o’r fath ar reolwyr gweithleoedd yn gyffredinol ledled Cymru.

 

Ond o dan Fil Cymru, fe fyddai angen cydsyniad llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gosod dyletswyddau o’r fath ar awdurdodau a gedwir yn ôl sydd â gweithleoedd yng Nghymru (megis y DVLA, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Gofrestrfa Tir). Y rheswm am hyn yw y byddai’r dyletswyddau hynny’n gyfystyr â gosod swyddogaethau ar awdurdodau a gedwir yn ôl, ac mae paragraff 8 o’r Atodlen 7B newydd yn ei gwneud yn glir iawn fod angen cydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn y caiff y Cynulliad osod swyddogaethau ar awdurdodau a gedwir yn ôl.

 

Pe na bai cydsyniad llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei roi, ni fyddai’r ddyletswydd i gymryd camau i atal personau rhag defnyddio e-sigaréts na’r ddyletswydd i godi arwyddion yn gymwys i awdurdodau a gedwir yn ôl. Byddai hynny’n arwain at roi’r dyletswyddau hynny ar waith ar draws Cymru mewn modd anghyson.

 

2. Mae’r enghraifft ym mharagraff 6 o Ran 4 yn enghraifft arall lle byddai angen cydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, o dan Fil Cymru, er mwyn diwygio swyddogaethau iechyd meddwl yr heddlu. Fyddai dim angen cydsyniad o’r fath o dan y setliad cyfredol.

3. Mae’r enghraifft ym mharagraff 7 o Ran 6 yn enghraifft arall lle byddai angen cydsyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, o dan Fil Cymru, er mwyn gosod swyddogaethau ar yr Awdurdod Meinweoedd Dynol. Doedd dim angen cydsyniad o’r fath o dan y setliad cyfredol.

ATODIAD - TABL MATERION A GEDWIR YN ÔL SY’N FWYAF PERTHNASOL I’R PWYLLGOR

Mater a gedwir yn ôl – Adran a rhif

Disgrifiad

Effaith y mater a gedwir yn ôl ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad

B16, 54 a 55

54 Dosbarthu ffilmiau a recordiadau fideo (gan gynnwys gemau fideo)

 

55 Trwyddedu -

darpariaeth adloniant, a lluniaeth yn hwyr y nos.

Geiriad ychydig yn wahanol i’r eithriad presennol; ychydig o ostyngiad mewn cymhwysedd.
Nid yw “gemau fideo” wedi’i gynnwys fel eithriad ar hyn o bryd.

B17, 56

Gwerthu a chyflenwi alcohol

Geiriad ychydig yn ehangach na’r eithriad presennol ond yr effaith yn debyg o fod yr un fath.

 

B18, 57

Betio, hapchwarae a lotrïau

 

Heb ei newid.

B22, 61-62

Elusennau a chodi arian

 

Nid yw’n eithriad rhag cymhwysedd ar hyn o bryd felly mae’n ymddangos bod hyn yn ostyngiad mewn cymhwysedd.

J6, 153-155

Materion a gedwir yn ôl ynghylch iechyd a diogelwch– gan gynnwys diogelwch rhag tân (ac eithrio hybu diogelwch rhag tan heblaw drwy wahardd neu reoleiddio).

Geiriad yn ehangach na’r eithriad presennol; effaith ymarferol yn aneglur, yn enwedig ar y cyd â chyfyngiad arall ar gymhwysedd.

 

K1, 156 a 157

Darlledu a chyfryngau eraill; y BBC.

Geiriad yn ehangach na’r eithriad presennol; effaith ymarferol yn aneglur.

 

K2, 158

Hawl fenthyca gyhoeddus

Heb ei newid.

K3, 159

Cynllun indemniadau’r Llywodraeth ar gyfer gwrthrychau ar fenthyg

Heb ei newid.

 

K4, 160

Eiddo a dderbynnir i dalu treth a gwaredu eiddo o’r fath

Geiriad yn ehangach na’r eithriad presennol – gostyngiad mewn cymhwysedd.

 

K5, 161

Diogelwch meysydd chwaraeon

Nid yw’n eithriad rhag cymhwysedd ar hyn o bryd - gostyngiad mewn cymhwysedd.

 

 

 



[1] Bydd yn ategol: (a) os yw’n darparu ar gyfer gorfodi deddfwriaeth y Cynulliad neu os yw’n briodol mewn modd arall er mwyn rhoi ei effaith i ddeddfwriaeth y Cynulliad, neu (b) os yw’n diwygio’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl mewn modd ategol neu ganlyniadol.